Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad

PAC(4) 08-12 – Papur 2

 

Ymateb i’r Adroddiad gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai

 

 

Rydym yn croesawu canfyddiadau’r adroddiad ac yn cynnig yr ymateb canlynol i’w saith argymhelliad.

 

 

Argymhelliad 1:

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canllawiau atodol i holl gyrff y GIG yng Nghymru yn nodi’n glir na ddylid defnyddio’r polisi diogelu amser bwyd i atal perthnasau a gofalwyr rhag cynorthwyo cleifion i fwyta, ac os yw perthnasau a gofalwyr am gynorthwyo amser bwyd, dylai staff ar y ward eu hannog i wneud hynny.

 

Ymateb: Derbyniwyd

 

Mae llythyr gan y Prif Swyddog Meddygol / Prif Swyddog Nyrsio wedi cael ei anfon i gyrff y GIG yng Nghymru yn nodi’n glir na ddylid defnyddio’r polisi diogelu amser bwyd i atal perthnasau a gofalwyr rhag cynorthwyo cleifion i fwyta, ac y dylai perthnasau a gofalwyr – os ydynt am gynorthwyo amser bwyd – gael eu hannog i wneud hynny gan staff ar y ward. Hefyd caiff enghreifftiau o’r arferion gorau yng Nghymru eu casglu a’u dangos ar y wefan Fframwaith Maeth ac Arlwyo mewn Ysbytai, sy’n seiliedig ar ‘Iechyd yng Nghymru’, porth i sefydliadau GIG Cymru, Gwasanaeth Gwybodaeth Iechyd Cymru (HOWIS) gynt.

 

Dyddiad cwblhau targed: Bydd enghreifftiau o arfer gorau ar y wefan erbyn 30 Ebrill 2012

 

 

Argymhelliad 2:

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod byrddau iechyd lleol yn rhoi copi o nodyn cyfarwyddyd Swyddfa Archwilio Cymru, sef ‘Bwyta’n Dda yn yr Ysbyty—Yr Hyn y Dylech ei Ddisgwyl’ i bob claf yn ysbytai Cymru, a hynny pan fyddant yn cyrraedd yr ysbyty.

 

Ymateb: Derbyniwyd

 

Mae nifer o’r BILl eisoes yn cynnwys gwybodaeth o’r daflen hon yn y pecynnau a roddir i gleifion adeg eu derbyn. Lle na wneir hynny, bydd yn ofynnol i’r BILl gynnwys yr wybodaeth hon ar faeth yn y deunyddiau a roddir i gleifion adeg eu derbyn neu roi nodyn cyfarwyddyd Swyddfa Archwilio Cymru, ‘Bwyta’n Dda yn yr Ysbyty—Yr Hyn y Dylech ei Ddisgwyl’ i bob claf pan fydd yn cyrraedd yr ysbyty. Roedd llythyr y Prif Swyddog Meddygol / Prif Swyddog Nyrsio, y cyfeiriwyd ato yn yr ymateb i argymhelliad 1, yn hysbysu cyrff y GIG o’u gofyniad ac yn darparu dolen at y copi PDF o’r daflen ar wefan Swyddfa Archwilio Cymru. Bydd cydymffurfiaeth yn cael ei monitro gan Lywodraeth Cymru bob chwarter yn rhan o’r cyfarfodydd Ansawdd a Chyflenwi a gynhelir yn rheolaidd â BILl / Ymddiriedolaeth GIG Felindre.

 

 

Argymhelliad 3:

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i sicrhau bod y modd y mae cyrff y GIG yn rhoi eu cynlluniau gweithredu’u hunain ar waith yn cael ei fonitro’n ofalus a bod y canlyniadau ar gael i bawb eu gweld.

 

Ymateb: Derbyniwyd yn Rhannol

 

Cyfrifoldeb cyrff y GIG yw monitro cyflawniad eu cynlluniau gweithredu unigol  ar arlwyo a maeth, a dylai Byrddau’r GIG graffu ar eu cynnydd drwy eu Pwyllgorau Archwilio. Byddwn yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff iechyd gynnwys eu cynlluniau gweithredu a diweddariadau ar gynnydd ar eu gwefannau.

 

At hynny, bydd cynnydd yn erbyn pob cynllun gweithredu lleol yn cael ei fonitro gan Lywodraeth Cymru bob chwarter yn rhan o’r cyfarfodydd Ansawdd a Chyflenwi a gynhelir yn rheolaidd â BILl / Ymddiriedolaeth GIG Felindre.

 

 

Argymhelliad 4:

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn monitro i ba raddau y mae cyrff y GIG yn llwyddo i roi ei chanllawiau ar waith, gan gynnwys defnyddio bwyd lleol sy’n cyfrannu at ddeiet cytbwys, iach i gleifion, lle bo hynny’n bosibl.

 

Ymateb: Derbyniwyd

 

Mae gwefan fewnrwyd wedi’i datblygu sy’n dwyn ynghyd yr holl ganllawiau polisi sy’n ymdrin ag arlwyo a maeth cleifion mewn ysbytai. Mae’r wefan ‘Fframwaith Maeth ac Arlwyo mewn Ysbytai’, sy’n seiliedig ar Iechyd yng Nghymru, ar gael ar bob ward ym mhob ysbyty drwy’r porth nyrsio a gyflwynwyd yn ddiweddar. Bydd hyn yn helpu i ledaenu canllawiau Llywodraeth Cymru ar fwyd mewn ysbytai.

 

I helpu i weithredu’r Safonau Maeth ac Arlwyo Cymru Gyfan a gyflwynwyd yn ddiweddar ar gyfer Bwyd a Diod i Gleifion Preswyl mewn Ysbytai, mae grŵp gorchwyl a gorffen wedi’i sefydlu i baratoi Bwydlenni Ysbyty Cymru Gyfan. Pan fydd y bwydlenni’n barod bydd modd i ni sefydlu contractau caffael Cymru gyfan ac ystyried cyrchu lleol.

 

Bydd y gwaith o archwilio cydymffurfiaeth â Llwybr Gofal Maeth Cymru Gyfan a’r Safonau Maeth ac Arlwyo Cymru Gyfan ar gyfer Bwyd a Diod i Gleifion Preswyl mewn Ysbytai yn cael ei gyflawni ar draws holl gyrff y GIG drwy’r broses Archwilio Hanfodion Gofal. Mae Safon 9 – Bwyta ac Yfed o’r Hanfodion Gofal wedi’i mapio yn erbyn y safonau canlynol o Gwneud yn Dda, Gwneud yn Well: Safonau ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Cymru. Mae hyn yn cynnwys: Safon 5 – Ymgysylltu â Dinasyddion a Cheisio Adborth; Safon 8 – Cynllunio a Darparu Gofal; a Safon 14 – Maeth. Mae hyn yn sicrhau bod y broses archwilio yn ymdrin â phob agwedd ar y Llwybr a’r Safonau Maeth ac Arlwyo.

 

Er 2009 mae’n ofynnol i gyrff y GIG gynnal archwiliad llawn o holl wardiau/ adrannau eu hysbytai yn flynyddol a chyflwyno’r canlyniadau i Brif Swyddog Nyrsio/Cyfarwyddwr Nyrsio Cymru. Gall y system electronig sy’n sylfaen i’r offeryn archwilio ddadansoddi a chynhyrchu adroddiadau o’r data a fewnbynnir ar lefel y ward. Mae hefyd yn galluogi pob ward i ddatblygu cynlluniau gweithredu, i fynd i’r afael ag unrhyw faterion sy’n achosi pryder yn ogystal ag i adeiladu ar arferion da. Mae gan gyrff y GIG amrywiaeth o fecanweithiau i rannu’r canlyniadau â grwpiau staff perthnasol. Mae cyflwyno mecanwaith dilysu annibynnol ar gyfer y broses Archwilio Hanfodion Gofal yn cael ei ystyried ar hyn o bryd.

 

Dyddiad cwblhau targed: Bydd canlyniadau Archwiliad Hanfodion Gofal 2011 yn cael eu cyhoeddi erbyn 30 Ebrill 2012. Bydd Bwydlen Ysbyty Cymru Gyfan yn cael ei datblygu erbyn Hydref 2012.

 

 

Argymhelliad 5:

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn dweud wrthym sut a phryd y gallwn ddisgwyl i’r targedau lleihau gwastraff gael eu cyrraedd.

 

Ymateb: Derbyniwyd

 

Byddwn yn ei gwneud yn ofynnol i holl gyrff y GIG sicrhau cyfartaledd cyffredinol o ddeg y cant neu lai o wastraff mewn perthynas â phrydau heb eu cyffwrdd ar draws eu hysbytai erbyn diwedd 2012-13. Bydd cydymffurfiaeth yn cael ei monitro drwy ffurflenni a gaiff eu dychwelyd yn chwarterol gan gyrff y GIG a hefyd drwy’r System Rheoli Perfformiad Ystadau a Chyfleusterau.

 

At hynny, mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio ag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA), Llywodraeth yr Alban, Gogledd Iwerddon a’r corff a noddir gan y Llywodraeth WRAP (Rhaglen Gweithredu’r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau) i ddatblygu cytundeb gwirfoddol ar gyfer y Sector Lletygarwch. Mae hyn yn cynnwys targed lleihau gwastraff o bump y cant ar gyfer gwastraff bwyd a deunydd pacio erbyn 2015. Mae hefyd yn cynnwys targed ar gyfer cynyddu’r gyfran o wastraff bwyd a deunydd pacio a gaiff ei ailgylchu, ei gompostio neu ei anfon i gyfleuster treulio anaerobig erbyn 2015 (mae targed yn cael ei gytuno â’r diwydiant ar hyn o bryd). Bydd y cytundeb yn ymdrin ag arlwyo mewn ysbytai, ar gyfer gwasanaethau i gleifion ac i eraill. Ar hyn o bryd cynigir lansio’r cytundeb hwn ym mis Mai a bydd holl gyrff y GIG yn cael eu hannog i gymryd rhan.

 

 

Argymhelliad 6:

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i sicrhau bod sgoriau hylendid bwyd yn cael eu harddangos yn gyhoeddus yn holl ysbytai Cymru.

 

Ymateb: Derbyniwyd

 

Ar hyn o bryd mae’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yn cael ei weithredu’n wirfoddol yng Nghymru ac yn cael ei redeg gan Awdurdodau Lleol mewn partneriaeth â’r Asiantaeth Safonau Bwyd. Bydd Awdurdodau Lleol yn arolygu busnesau bwyd i weld a ydynt yn bodloni gofynion y gyfraith hylendid bwyd. Ar sail yr arolygiad hwn, bydd yr awdurdod lleol yn cyfrifo’r sgôr ac yn anfon sticer yn dangos y sgôr hylendid bwyd at y busnes bwyd. Anogir y busnes bwyd i arddangos y sticer ar y safle; cyhoeddir yr holl sgoriau hefyd ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Ar gyfer y dyfodol mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ymgynghori ar ddeddfwriaeth a fyddai’n ei gwneud yn orfodol i’r holl fusnesau bwyd yng Nghymru arddangos eu sgoriau hylendid bwyd.

 

Yn y cyfamser mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ysgrifennu at y BILl i ofyn iddynt sicrhau bod yr holl ysbytai a holl safleoedd eraill y GIG yng Nghymru sydd wedi cael sgôr hylendid bwyd gan eu Hawdurdod Lleol yn ei harddangos lle y gall defnyddwyr ei gweld yn rhwydd.

 

 

 

Argymhelliad 7:

Rydym yn gofyn i’r Swyddog Cyfrifyddu baratoi cynllun sy’n dangos sut a phryd y bydd Llywodraeth Cymru a’r Byrddau Iechyd Lleol yn cwblhau’r gwelliannau y mae’r Archwilydd Cyffredinol yn eu hargymell.

 

Ymateb: Derbyniwyd

 

Mae cynnydd sylweddol wedi’i wneud o ran y gwelliannau a argymhellwyd gan yr Archwilydd Cyffredinol. Cynhwyswyd manylion y cynnydd yn y papur a gyflwynwyd i’r Pwyllgor cyn sesiwn dystio’r Swyddogion Cyfrifyddu yn Nhachwedd 2011.

 

Mae datblygiadau eraill ers y sesiwn dystio yn cynnwys:

 

I gael gwybodaeth ar gyfer y papur a gyflwynwyd i’r Pwyllgor yn Hydref 2011, cynhaliodd swyddogion Llywodraeth Cymru arolwg o gynnydd BILl / Ymddiriedolaeth GIG Felindre yn erbyn y gwelliannau a argymhellwyd gan yr Archwilydd Cyffredinol. Bydd Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff y GIG ddarparu diweddariadau ar gynnydd yn erbyn argymhellion yr Archwilydd Cyffredinol yn Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai, a hynny bob chwe mis nes eu bod i gyd wedi’u cyflawni. Mae’r broses newydd gychwyn o gasglu gwybodaeth am yr eildro. Wedi dadansoddi’r data hyn bydd cynllun yn cael ei ddatblygu i weithredu unrhyw faterion sydd ar ôl, a chaiff ei roi i’r Pwyllgor erbyn diwedd Mai 2012. 

 

 

Dyddiad cwblhau targed: 31 Mai 2012